Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

Nodyn Technegol ar gyfer y Pwyllgor Cyllid

Hysbysu tenantiaid am y newidiadau a gynigiwyd ym Mil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol (Cymru)

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 23 Tachwedd, trafodwyd y gost o roi gwybod am y newidiadau i drefniadau llywodraethiant Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig o ganlyniad i'r Bil.  Efallai y bydd yr wybodaeth a ddarperir yn y nodyn hwn o ddiddordeb i'r Aelodau at ddibenion eglurhad.

Pan ofynnwyd "How well has the ONS decision been communicated in the sector generally, including with tenants?" yng nghyfarfod Is-bwyllgor o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar 7 Tachwedd, dywedodd Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru - TPAS Cymru "...it's certainly been communicated well within the sector in terms of the professional level. I don't think there's any doubt about that. We've drawn on conversations with tenants, our tenant networks, regulation events and had some conversations with tenants at those."

Yn ogystal, mae swyddogion wedi rhoi cyflwyniadau mewn nifer o gyfarfodydd i denantiaid er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael cyfle i glywed am y cynigion, a chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus i egluro'r cynigion yn fanylach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda TPAS o dan y contract presennol, a bydd yn parhau i wneud hynny, er mwyn sicrhau bod y neges ynghylch goblygiadau'r Bil yn cael eu lledaenu mor eang â phosibl.

Serch hynny, mater i'r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig dan sylw yw trosglwyddo'r wybodaeth am y newidiadau i'r trefniadau llywodraethiant fel rhan o'u busnes bob dydd. Er enghraifft, newidiodd 10 Landlord Cymdeithasol Cofrestredig eu hoffer llywodraethiant yn y flwyddyn ddiwethaf. Gallaf gadarnhau hefyd nad yw'r gost o roi gwybod am y newidiadau i'r trefniadau llywodraethiant yn fater sydd wedi'i godi mewn unrhyw drafodaethau neu ymgynghori â'r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac felly nid yw'n fater perthnasol.